Player FM - Internet Radio Done Right
11 subscribers
Checked 5d ago
추가했습니다 eight 년 전
BBC and BBC Radio Cymru에서 제공하는 콘텐츠입니다. 에피소드, 그래픽, 팟캐스트 설명을 포함한 모든 팟캐스트 콘텐츠는 BBC and BBC Radio Cymru 또는 해당 팟캐스트 플랫폼 파트너가 직접 업로드하고 제공합니다. 누군가가 귀하의 허락 없이 귀하의 저작물을 사용하고 있다고 생각되는 경우 여기에 설명된 절차를 따르실 수 있습니다 https://ko.player.fm/legal.
Player FM -팟 캐스트 앱
Player FM 앱으로 오프라인으로 전환하세요!
Player FM 앱으로 오프라인으로 전환하세요!
Llond Bol o Bleidleisio?
Manage episode 246304397 series 1301568
BBC and BBC Radio Cymru에서 제공하는 콘텐츠입니다. 에피소드, 그래픽, 팟캐스트 설명을 포함한 모든 팟캐스트 콘텐츠는 BBC and BBC Radio Cymru 또는 해당 팟캐스트 플랫폼 파트너가 직접 업로드하고 제공합니다. 누군가가 귀하의 허락 없이 귀하의 저작물을 사용하고 있다고 생각되는 경우 여기에 설명된 절차를 따르실 수 있습니다 https://ko.player.fm/legal.
Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, a’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yn trafod yr wythnos a aeth heibio yn yr ymgyrch etholiadol gyda Dylan Jones yn y gadair.
80 에피소드
Manage episode 246304397 series 1301568
BBC and BBC Radio Cymru에서 제공하는 콘텐츠입니다. 에피소드, 그래픽, 팟캐스트 설명을 포함한 모든 팟캐스트 콘텐츠는 BBC and BBC Radio Cymru 또는 해당 팟캐스트 플랫폼 파트너가 직접 업로드하고 제공합니다. 누군가가 귀하의 허락 없이 귀하의 저작물을 사용하고 있다고 생각되는 경우 여기에 설명된 절차를 따르실 수 있습니다 https://ko.player.fm/legal.
Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, a’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yn trafod yr wythnos a aeth heibio yn yr ymgyrch etholiadol gyda Dylan Jones yn y gadair.
80 에피소드
모든 에피소드
×Mae Vaughan a Richard nôl gyda rhifyn cyntaf o'r flwyddyn gan droi eu sylw at y Blaid Lafur. Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr yn ymuno â'r ddau i drafod rhybudd un o gyn-weinidogion Llywodraeth Cymru, Lee Waters bod ei blaid mewn perygl o dderbyn "cic" yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026. Mae'r cyn Aelod Seneddol, Llafur Jon Owen Jones hefyd ar y pod i drafod y berthynas rhwng Llafur San Steffan a Llafur Cymru. Oes angen i Eluned Morgan dorri cwys ei hun ac ymbellhau oddi wrth Keir Starmer?…
Yn ymuno â Vaughan a Richard ym mhennod ola'r flwyddyn mae'r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones, aelod Ceidwadol dros Dde Orllewin yn Senedd Cymru, Tom Giffard a Nerys Evans o gwmni materion cyhoeddus Deryn sydd hefyd yn gyn aelod Cynulliad Plaid Cymru. Digwyddiadau y flwyddyn a fu ym Mae Caerdydd fydd dan sylw gan gynnwys ymddiswyddiad Vaughan Gething, etholiad cyffredinol 2024 ac mae'r pump hefyd yn ceisio gan ddarogan beth fydd ar yr agenda gwleidyddol yn y misoedd i ddod.…
Ar ôl i Andrew RT Davies ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r heriau i'r blaid ac yn gofyn pwy sy'n debygol o'i olynu. Mae Rhys Owen, gohebydd gwleidyddol Golwg 360 yn y Senedd yn ymuno i drafod sut all Llywodraeth Cymru pasio ei gyllideb wythnos nesa'. Ac ar ôl i arolwg barn newydd osod Plaid Cymru ar y blaen am y tro cyntaf ers 2010, Llafur a Reform yn gydradd ail a'r Ceidwadwyr yn bedwerydd. Beth all hyn olygu i'r pleidiau?…
Sut mae ein hunaniaeth yn effeithio ar y ffordd 'da ni'n mynd ati i bleidleisio? Dyna sy'n cael sylw Vaughan a Richard yn y bennod ddiweddara. Mae'r ddau yn trafod sut mae patrymau pleidleisio wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf. Hefyd, trafod llyfr Richard sy'n astudio meddylfryd gwleidyddol Plaid Cymru o 1925 i 1997.…
Bethan Rhys Roberts sy'n ymuno â Vaughan a Richard i drafod buddugoliaeth Donald Trump yn yr etholiad arlywyddol yn America. Wythnos wedi'r gyllideb mae Guto Ifan hefyd yn ymuno i drafod goblygiadau cyhoeddiad Rachel Reeves ar Gymru. Ac ar ôl i Kemi Badenoch gael ei hethol yn arweinydd newydd y Ceidwadwyr, mae'r ddau yn trafod yr heriau i'r blaid ar lefel Brydeinig ac yma yng Nghymru.…
Ar ôl marwolaeth cyn Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond, mae Vaughan a Richard yn trafod ei farc ar wleidyddiaeth Prydain. Mae'r ddau hefyd yn trafod 100 diwrnod cyntaf Keir Starmer yn Downing Street ac yn edrych ymlaen at y ras i fod yn arweinydd y blaid Geidwadol rhwng Kemi Badenoch a Robert Jenrick.…
Gyda'r tymor seneddol newydd wedi dechrau mae Vaughan a Richard yn trafod yr hyn fydd ar yr agenda ym Mae Caerdydd a San Steffan. Maen nhw hefyd yn dadansoddi penodiadau Eluned Morgan i'w chabinet ar hyn mae'r penodiadau yn golygu i'r grŵp Llafur yn y Bae. Ac a hithau'n ddeng mlynedd ers refferendwm annibyniaeth yr Alban mae cyflwynydd Newyddion S4C, Bethan Rhys Roberts, yn ymuno gyda Vaughan a Richard i rannu ei hatgofion hi o'r cyfnod ac i drafod dyfodol yr SNP.…
Wedi'i recordio ar faes yr Eisteddfod, mae Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr heriau sy'n wynebu Prif Weinidog newydd Cymru, Eluned Morgan. Mae'r ddau yn dadansoddi etholiad y Senedd yn 2026, a sut fydd y system bleidleisio newydd yn gweithio. Ac i gloi mae ychydig o gwestiynau gan y gynulleidfa i'r ddau.…
Cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones sy'n ymuno â Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones i ddadansoddi Eluned Morgan yn dod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Mae'r ddau yn trafod yr heriau sydd yn ei hwynebu i uno grwp y blaid yn y Senedd a'i hapêl i etholwyr Cymru.
Ar ôl i Vaughan Gething ymddiswyddo wedi 118 o ddiwrnodau yn y swydd fel Prif Weinidog Cymru, Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones sy’n trafod y ffactorau wnaeth arwain at ei benderfyniad. Mae’r ddau yn dadansoddi'r hyn mae’n golygu i’r Blaid Lafur a’r heriau fydd yn wynebu grŵp y blaid yn y Senedd gan ystyried pwy sy’n debygol o sefyll os oes ras i’w olynu.…
1 10 Gorffennaf: Dadansoddi canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol 31:16
31:16
나중에 재생
나중에 재생
리스트
좋아요
좋아요
31:16Ar ôl i'r blaid Lafur ennill buddugoliaeth hanesyddol yn yr etholiad cyffredinol mae Vaughan a Richard yn dadansoddi’r canlyniadau yng Nghymru gan drafod ymgyrch y pleidau gan edrych ymlaen hefyd at etholiadau'r Senedd yn 2026. Mae’r ddau hefyd yn rhannu eu hargraffiadau o ddyddiau cynnar llywodraeth Keir Starmer ac yn ystyried dyfodol y Blaid Geidwadol.…
1 02 Gorffennaf: Dyfodol y Ceidwadwyr, a'r etholiad yn yr Alban 28:52
28:52
나중에 재생
나중에 재생
리스트
좋아요
좋아요
28:52Yn y podlediad olaf cyn yr etholiad cyffredinol, cyn ymgynghorydd Boris Johnson, Guto Harri sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon. Ymgyrch y Ceidwadwyr a dyfodol y blaid yw rhai o’r pynciau o dan sylw. Mae golwg penodol hefyd yn cael ei rhoi i’r etholiad yn yr Alban ac argraffiadau'r ymgyrch dros y pum wythnos diwethaf.…
Faint o effaith mae honiadau o gamblo yn ei gael ar ymgyrch yr etholiad? Dyna brif ffocws Vaughan Roderick a’r Athro Richard Wyn Jones. Sylw i ymgyrch Plaid Cymru, gyda dadansoddiad gan cyn aelod Cynulliad y Blaid, Nerys Evans. Ac mae sylw penodol hefyd yn cael ei rhoi i etholaethau'r de.
Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod maniffestos y Blaid Lafur a Phlaid Cymru gan ystyried perthynas Llafur Cymru a'r blaid yn eangach ar lefel Brydeinig. Yn ymuno gyda'r ddau mae Owen John cyn ymgynghorydd arbennig i gyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i drafod tactegau Llafur yn yr ymgyrch hyd yma. Hefyd mae'r ddau yn dadansoddi yr ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr dros yr wythnos diwethaf, tactegau ymgyrchu'r Democratiaid Rhyddfrydol ac arwyddocad Reform UK yn lansio ei 'chytundeb' gyda'r bobl ym Merthyr Tudful.. Cyfle hefyd i roi sylw penodol i etholaethau'r Canolbarth a'r Gorllewin.…
Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr ymgyrch etholiadol hyd yma, gan ganolbwyntio ar rai o etholaethau'r gogledd.
플레이어 FM에 오신것을 환영합니다!
플레이어 FM은 웹에서 고품질 팟캐스트를 검색하여 지금 바로 즐길 수 있도록 합니다. 최고의 팟캐스트 앱이며 Android, iPhone 및 웹에서도 작동합니다. 장치 간 구독 동기화를 위해 가입하세요.