AnthroPod is produced by the Society for Cultural Anthropology. In each episode, we explore what anthropology teaches us about the world and people around us.
…
continue reading
Player FM - Internet Radio Done Right
Checked 1d ago
추가했습니다 two 년 전
Yr Hen Iaith에서 제공하는 콘텐츠입니다. 에피소드, 그래픽, 팟캐스트 설명을 포함한 모든 팟캐스트 콘텐츠는 Yr Hen Iaith 또는 해당 팟캐스트 플랫폼 파트너가 직접 업로드하고 제공합니다. 누군가가 귀하의 허락 없이 귀하의 저작물을 사용하고 있다고 생각되는 경우 여기에 설명된 절차를 따르실 수 있습니다 https://ko.player.fm/legal.
Player FM -팟 캐스트 앱
Player FM 앱으로 오프라인으로 전환하세요!
Player FM 앱으로 오프라인으로 전환하세요!
Yr Hen Iaith
모두 재생(하지 않음)으로 표시
Manage series 3455484
Yr Hen Iaith에서 제공하는 콘텐츠입니다. 에피소드, 그래픽, 팟캐스트 설명을 포함한 모든 팟캐스트 콘텐츠는 Yr Hen Iaith 또는 해당 팟캐스트 플랫폼 파트너가 직접 업로드하고 제공합니다. 누군가가 귀하의 허락 없이 귀하의 저작물을 사용하고 있다고 생각되는 경우 여기에 설명된 절차를 따르실 수 있습니다 https://ko.player.fm/legal.
Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.
…
continue reading
86 에피소드
모두 재생(하지 않음)으로 표시
Manage series 3455484
Yr Hen Iaith에서 제공하는 콘텐츠입니다. 에피소드, 그래픽, 팟캐스트 설명을 포함한 모든 팟캐스트 콘텐츠는 Yr Hen Iaith 또는 해당 팟캐스트 플랫폼 파트너가 직접 업로드하고 제공합니다. 누군가가 귀하의 허락 없이 귀하의 저작물을 사용하고 있다고 생각되는 경우 여기에 설명된 절차를 따르실 수 있습니다 https://ko.player.fm/legal.
Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.
…
continue reading
86 에피소드
모든 에피소드
×Y
Yr Hen Iaith

Ymdreiddiwn ychydig yn ddyfnach i emynau Pantycelyn yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar un thema. Ar ôl trafod yr emyn poblogaidd sy’n dechrau ‘Pererin wyf mewn anial dir’, nodwn nad dyna oedd yr unig dro na’r tro cyntaf i Williams ddechrau cyfansoddiad gyda’r ddau air hyn. Ar ôl dangos y modd y bu iddo ailgylchu elfennau o’i waith ei hun trwy gydol ei yrfa lenyddol faith, awn ati i ystyried ystyr ac arwyddocâd y ‘pererin’ – fel thema, fel delwedd ac fel persona – yn ngwaith yr emynydd Methodistaidd mawr. Mae hyn yn ein harwain i drafod dylanwad John Bunyan a’i lyfr Taith y Pererin ar waith Pantycelyn ac ar emynyddiaeth Gymraeg yn gyffredinol. Ac bu’n rhaid crybwyll barn Saunders Lewis am Williams ac am Bunyan wrth fynd heibio hefyd! ** ‘I am a Pilgrim’: Williams Pantycelyn (part 2) We dive a little deeper into Pantycelyn’s hymns in this episode, concentrating on one theme. After discussing the popular hymn beginning ‘Pererin wyf mewn anial dir’ (‘I am a pilgrim in a desert’), we note that that was neither the only time nor the first time that Williams begun a composition with these two words. After demonstrating the fact that he recycled elements of his own work throughout his long literary career, we get down to considering the meaning ans significance of the ‘pilgrim’ – as a theme, as an image and as a persona – in the work of the great Methodist hymnist. This leads us to discuss the influence of John Bunyan and his book Pilgrim’s Progress upon Pantycelyn’s work and upon Welsh hymnology in general. And we had to mention Saunders Lewis’ views on Williams and Bunyan in passing as well! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Derec Llwyd Morgan, Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn (1991). - Kathryn Jenkins, ‘Y Llenor o Bantycelyn’, Efrydiau Athronyddol , IV (1992). - Glyn Tegai Hughes, Williams Pantycelyn [Writers of Wales], (1983).…
Y
Yr Hen Iaith

1 Pennod 64 - ‘Williams biau’r Emyn’: Williams Pantycelyn (rhan 1) 31:10
31:10
나중에 재생
나중에 재생
리스트
좋아요
좋아요31:10
Yn y bennod hon, dechreuwn drafod prifardd y mudiad Methodistaidd Cymraeg, William Williams, Pantycelyn (1717-1791). Er ein bod ni’n crybwyll ychydig o hanes ei fywyd (gan gynnwys ei dröedigaeth), oedwn i bwysleisio arwyddocâd ei waith llenyddol a chydsynio â’r rhai sy’n gweld emynau cynnar Pantycelyn fel dechrau pennod newydd yn hanes barddoniaeth Gymraeg. Dyma fath cwbl newydd o ganu mawl! Craffwn ar un o’i emynau poblogaidd, gan sylwi ar y naws bersonol a’r iaith hygyrch ac awgrymu bod rhywbeth beiddgar yn y modd y defnyddiodd themâu a delweddaeth yr hen ganu serch i drafod cariad at Dduw. Trafodwn y persona a glywir yn llefaru yn y cyfansoddiad ac rydym yn canfod cyfuniad diddorol o’r personol-breifat a’r cymunedol-gyhoeddus yn y gwaith. Awgrymwn fod cyhoeddiadau Pantycelyn yn fodd i werthfawrogi twf y wasg argraffu Gymraeg ac ystyriwn seiliau materol ei yrfa lenyddol. ** ‘The Hymn Belongs to Williams’ In this episode we begin discussing the Welsh Methodist movement’s chief poet, William Williams, Pantycelyn (1717-1791). Although we summarize some of the history of his life (including his conversion), we take more time in stressing the significance of his literary work as we agree with those we see Pantycelyn’s early hymns as the start of new chapter in the history of Welsh-language poetry. Here is a completely new kind of praise poetry! We examine one of his popular hymns, taking note of the personal tone and accessible language and suggesting that there is something daring in the way in which he used themes and imagery from the old love poetry in order to treat love of God. We discuss the persona heard speaking in the composition and we perceive an interesting combination of the personal-private and the communal-public in the work. We suggest that Pantycelyn’s publications provide a way of appreciating the growth of the Welsh printing press and we consider the material foundations of his literary career. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Derec Llwyd Morgan, Williams Pantycelyn (1983).…
Y
Yr Hen Iaith

1 Pennod 63 - Dechrau Cyfnod Newydd: Y Diwygiad Methodistaidd 31:29
31:29
나중에 재생
나중에 재생
리스트
좋아요
좋아요31:29
Croeso i gyfres 3 Yr Hen Iaith! Agorwn y gyfres newydd hon trwy drafod dechreuadau’r Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, mudiad a fyddai’n cael effaith anferthol ar y traddodiad llenyddol Cymraeg. Nodwn fod y mudiad crefyddol wedi dod i Gymru ar yr union adeg ag yr oedd yn troi’n fudiad trawsatlantig, gydag un o’r arweinwyr Seisnig, George Whiftield, yn cael ei gofio gan rai fel ‘tad ysbrydol America’ (er ei fod yn ddyn drwg iawn ym marn Jerry Hunter!). Yn arwyddocaol iawn o safbwynt llenyddiaeth, roedd gwedd lythrennog iawn ar Fethodistiaeth Gymreig gynnar; er nad aeth yr un ohonynt i brifysgol, roedd yr arweinwyr cynnar – Hywel (neu Howell) Harris, Daniel Rowland a William Williams Pantycelyn – wedi derbyn addysg safonol iawn. Gwyddom lawer am Howell Harris gan ei fod yn ysgrifennu cymaint – mae agos at 300 o’i ddyddiaduron a llawer o’i lythyrau personol wedi goroesi hefyd. Un o gefnogwyr Cymreig cynnar y diwygiad oedd Griffith Jones, Llandowror – dyn a wnaeth lawer i hyrwyddo llythrennedd trwy sefydlu’i rwydwaith o ysgolion. Wrth drafod trefniadau ymarferol y Methodistiaid cynnar – y seiat a’r sasiwn – awgrymwn fod y rhwydweithiau crefyddol hyn hefyd yn creu cymuned o ddarllenwyr a ‘derbynwyr llenyddiaeth’. The Beginning of a New Period: The Methodist Revival Welcome to series 3 of Yr Hen Iaith! We open this new series by discussion the beginnings of the Methodist Revival in Wales, a movement which would have an immense effect on the Welsh-language literary tradition. We note that the religious movement came to Wales at the exact time when it was beginning a transatlantic movement, with on of its English leaders, George Whitfield, being remembered by some as ‘America’s spiritual father’ (although he was a very bad man in Jerry Hunter’s opinion!). Extremely significant in the context of, there was an extremely literate aspect to early Welsh Methodism; although none of them went to university, the early leaders – Hywel (or Howell) Harris, Daniel Rowland and William Williams Pantycelyn – all received a very solid education. We know a lot about Howell Harris because he wrote so much – nearly 300 of his diaries have survived as well as many of his personal letters. One of the revival’s early Welsh supporters was Griffith Jones, Llandowror – a man who did much to promote literacy with the establishment of his network of schools. While discussing the practical organization of the early Mahdiists – the ‘seiat’ and the ‘sasiwn’ – we suggest that these religious Networks also created a community of readers and ‘receivers of literature’. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Geraint H. Jenkins, Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar 1530-1760 (1983). - Derec Llwyd Morgan, Y Diwygiad Mawr (1981). - Jerry Hunter, Safana…
Y
Yr Hen Iaith

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod ‘Ail Gainc y Mabinogi’, sef y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’. Rydym ni’n ystyried nifer o agweddau ar y stori gyffrous hon, gan ofyn cwestiynau diddorol am ei pherthynas â’r gymdeithas ganoloesol yr oedd yn perthyn iddi. Nodwn ei bod yn ei hanfod yn stori am briodas frenhinol, ac awgrymwn ei bod yn bosib ei darllen fel testun radicalaidd sy’n mynd i’r afael â’r wedd honno ar gymdeithas mewn modd beirniadol. Craffwn hefyd ar ymdriniaeth y chwedl â rhyfel a heddwch, gan nodi arwyddocâd y rhyfel apocalyptaidd sy’n lladd y rhan fwyaf o boblogaeth Iwerddon a’r rhan fwyaf o’r fyddin fawr sy’n croesi’r môr i achub Branwen. ** Branwen daughter of Llŷr We have a great time in this episode while discussing ‘The Second Branch of the Mabinogi’, namely the tale of ‘Branwen daughter of Llŷr’. We consider a number of things about this exciting story, asking interesting questions about its relationship with the medieval society to which it belonged. We note that it is in essence a story about a royal marriage, and we suggest that it’s possible to read it as a radical text which addresses this aspect of society in a critical fashion. We also examine the tale’s treatment of war and peace, noting the significance of the apocalyptical war which kills most of the population of Ireland and most of the great army which crossed the sea to save Branwen. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Dyma bennod yng nghyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n trafod y chwedl: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-5-chwedl-branwen - Hefyd, mae penodau am weddill ‘Pedair Cainc y Mabinogi’ ac un sy’n trafod ‘y chwedlau brodorol’ yn gyffredinol: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-3-y-chwedlau-brodorol https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-4-chwedl-pwyll-pendefig-dyfed https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-6-manawydan-a-seiliau-cymdeithas https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-7-trafferthion-teuluol-math - Deunydd astudio CBAC, wedi’i baratoi gan yr Athro Sioned Davies: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2015-16/Adnodd%20Branwen/index.html https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2015-16/Adnodd%20Branwen/23cymeriadau3.html https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2015-16/Adnodd%20Branwen/14themau4.html…
Mae’r bennod nesaf yn canolbwyntio ar y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’ (neu ‘Ail Gainc y Mabinogi’). Rydym ni’n paratoi ar gyfer y drafodaeth honno yn y bennod hon trwy edrych ar y llawysgrif gynharaf sy’n cynnwys copi cyflawn o’r chwedl, sef Llyfr Gwyn Rhydderch. Crëwyd y llawysgrif hon tua’r flwyddyn 1350 gan nifer o fynaich a oedd yn cydweithio ym mynachdy Ystrad Fflur yng Ngheredigion, a hynny, mae’n debyg, ar gyfer dyn o’r enw Rhydderch ab Ieuan Llwyd. Pwysleisiwn fod creu llawysgrif yn broses lafurus iawn a gymerai lawer o amser ac adnoddau a bod llawysgrif yn beth hynod werthfawr o’r herwydd. Roedd gwneuthurwyr llawysgrifau canoloesol felly’n dewis cynnwys eu ‘llyfrau’ yn ofalus iawn. Nodwn fod ‘Pedair Cainc y Mabinogi’ ymysg y ‘chwedlau brodorol’ a geir yn Llyfr Gwyn Rhydderch, gan ystyried hefyd y ffaith bod rhychwant eang o wahanol destunau wedi’u cynnwys yn y llawysgrif hefyd. ** The next episode focusses on the tale ‘Branwen daughter of Llŷr’ (or ‘The Second Branch of the Mabinogi’). We prepare for that discussion in this episode by looking at the earliest manuscript which contains a complete copy of the tale, namely the White Book of Rhydderch. This manuscript was created about the year 1350 by a number of monks working together in the monastery of Strata Florida in Ceredigion, most likely for a man named Rhydderch ab Ieuan Llwyd. We stress the fact that creating a manuscript was a very laborious process which took a lot of time and resources and that a manuscript was and is an extremely valuable thing because of that. The makers of medieval manuscripts thus chose the contents of their ‘books’ very carefully. We note that ‘The Four Branches of the Mabinogi’ are among the ‘native tales’ found in the White Book of Rhydderch, while also considering the fact that a wide selection of different texts is also included in the manuscript. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Cewch weld copi digidol o’r holl lawysgrif ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llawysgrifau/yr-oesoedd-canol/llyfr-gwyn-rhydderch - Cewch glywed rhagor am greu llawysgrifau Cymraeg canoloesol yn y bennod hon yng nghyfres 1 Yr Hen Iaith: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-2-y-llawysgrif-gymraeg-gyntaf-sydd-wedi-goroesi…
Y
Yr Hen Iaith

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod cywydd hunan-ddychanol enwog Dafydd ap Gwilym. Dyma gerdd storïol ddoniol sy’n disgrifio ymdrech aflwyddiannus i gyfarfod â merch yn hwyr yn y nos, ac wrth adrodd y stori hon mae Dafydd yn dychanu’r union bersona barddol sy’n ganolog i gymaint o’i gywyddau. Ond nodwn fod themâu difrifol yma hefyd, er gwaethaf yr holl hwyl; mae’n bosibl dadlau bod y cywydd hwn yn cyferbynnu cariad cnawdol a chariad ysbrydol a’i fod hefyd yn gyfansoddiad sy’n amlygu tensiynau rhwng y Cymry a’r Saeson. ** ‘Trouble at an Inn’ We have fun in this episode while discussing Dafydd ap Gwilym’s famous self-satirical cywydd. This is a narrative poem which describes an unsuccessful attempt to meet a woman late at night, and by reciting this story Dafydd is satirizing the very bardic persona which is central to so many of his cywyddau. But we note that there are serious themes here as well, despite all of the fun; it’s possible to argue that this cywydd contrasts bodily love with spiritual love and that it is a composition which expresses tensions between the Welsh Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Y testun wedi’i olygu gan yr Athro Dylan Foster: http://resource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned03/04-trafferth-mewn-tafarn.html - Penodau cyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n canolbwyntio ar waith Dafydd ap Gwilym: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-24-meddwin-niwrbwrch-dafydd-ap-gwilym-rhan-1 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-25-caru-yn-y-coed-dafydd-ap-gwilym-rhan-2 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-26-dychan-hiwmor-a-grym-celf-dafydd-ap-gwilym-rhan-3…
Y
Yr Hen Iaith

‘Mis Mai a Mis Tachwedd’ Trafodwn un o gerddi natur Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, sef y cywydd enwog sy’n cyferbynnu mis Mai a’r mis ‘dig du’. Gan ystyried dwy thema gysylltiedig sy’n ganolog i waith Dafydd, cariad a natur, nodwn fod y bardd yn croesawu dyfodiad mis Mai gan ei fod yn arwyddo dechrau haf – tymor sy’n caniatáu iddo gyfarfod â’i gariad(on). Craffwn ar y modd y mae Dafydd yn personoli mis Mai ac awgrymu’i fod yn defnyddio rhai o nodweddion y canu mawl, gan wneud yr elfennau traddodiadol hyn yn rhan o’i gyfansoddiad gwreiddiol ef. ** ‘May and November’ In this episode we discuss one of Dafydd ap Gwilym’s nature poems, namely the famous cywydd which contrasts the month of May with the ‘dark angry’ month. While considering two connected themes which are central to Dafydd’s work, love and nature, we note that the poem welcomes May as it signifies the beginning of summer – the season which allows him to meet his lover(s). We examine the way in which Dafydd personifies the month of May and suggest that he uses some aspects of praise poetry, making these traditional elements part of his original composition. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Y testun wedi’i olygu gan yr Athro Dylan Foster Evans: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned03/03-mis-mai-a-mis-tachwedd.html - Nodiadau dosbarth CBAC: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2010-11/welsh/irf10-00/cdag/3%20%20Mis%20Mai%20a%20Mis%20Tachwedd/2%20Arddull%20Mis%20Mai%20a%20Mis%20Tachwedd/Nodiadau%20dosbarth%20-%20Arddull%20Mis%20Mai%20a%20Mis%20Tachwedd.docx - Penodau cyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n canolbwyntio ar waith Dafydd ap Gwilym: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-24-meddwin-niwrbwrch-dafydd-ap-gwilym-rhan-1 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-25-caru-yn-y-coed-dafydd-ap-gwilym-rhan-2 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-26-dychan-hiwmor-a-grym-celf-dafydd-ap-gwilym-rhan-3…
Edrychwn yn y bennod hon ar un o gywyddau llatai Dafydd ap Gwilym gan egluro ystyr y gair hwnnw – ‘llatai’ – a thrafod patrwm arferol cywyddau o’r fath. Dyma fath o gerdd sy’n cyfuno dwy hoff thema Dafydd, cariad a natur, gan roi rhwydd hynt i ddychymyg bardd wrth iddo bersonoli’r wylan a’i gwenieithu. Gwerthfawrogwn ddisgrifiadau hudolus Dafydd o’r aderyn a cheisiwn ddyfalu pa dref gastellog y cyfeirir ati. Nodwn fod hen thema gyfarwydd arall yn ymddangos yn y gerdd hon, sef honiad Dafydd ei fod yn glaf oherwydd cariad. ** ‘The Seagull’ In this episode we look at one of Dafydd ap Gwilym’s cywyddau llatai and explain the meaning of that word – ‘llatai’ – and discuss the usual pattern followed by these kinds of cywyddau. This is a kind of poem which combines two of Dafydd’s favourite themes, love and nature, giving the poet’s imagination free rein as he personifies the seagull and flatters it. We appreciate Dafydd’s charming descriptions of the bird and try to guess which fortified town is referred to in the poem. We note that another old familiar theme appears in this work, namely Dafydd’s claim that he is sick because of love. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Y testun wedi’i olygu gan yr Athro Dylan Foster Evans: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned03/02-yr-wylan.html - Sangiadau a brawddegau’r cywydd: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/support-files/uned3/yr-wylan/Yr%20Wylan%20-%20brawddegau%20sangiadau.docx - Penodau cyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n canolbwyntio ar waith Dafydd ap Gwilym: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-24-meddwin-niwrbwrch-dafydd-ap-gwilym-rhan-1 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-25-caru-yn-y-coed-dafydd-ap-gwilym-rhan-2 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-26-dychan-hiwmor-a-grym-celf-dafydd-ap-gwilym-rhan-3…
Y
Yr Hen Iaith

Edrychwn yn y bennod hon ar un arall o gerddi Taliesin. Roedd y traddodiad mawl yn cynnwys canu clodydd i arweinwyr a fu farw, a dyma a gawn yn y gerdd bwerus hon. Nodwn fod ‘Marwnad Owain’ yn cyfeirio at y fuddugoliaeth sy’n cael ei dathlu yn y gerdd ‘Gwaith Argoed Llwyfain’; teimlir bod campau go iawn dyn go iawn yn cael eu coffáu yma. Yn ogystal â’i allu milwrol, mae’r bardd yn canmol haelioni Owain. Ac wrth graffu ar y geiriau sy’n agor ac yn cloi’r gerdd, pwysleisiwn ei bod hi’n perthyn i gyd-destun cwbl Gristnogol a bod y farwnad hon yn cyfuno mawl gyda gweddi. ** ‘Elegy for Owain son of Urien’ In this episode we look at another of Taliesin’s poems. The praise tradition including paying tribute to dead leaders, and that’s what we have in this powerful poem. We note that this elegy for Owain refers to the victory celebrated in another of Taliesin’s poems, ‘The Battle of Argoed Llwyfain’; there is a sense that the real feats of a real man are being commemorated here. In addition to his military ability, the bard praises Owain’s generosity. And while considering the words which open and close the poem, we stress that it belongs to an entirely Christian context and that this elegy combines praise with prayer. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Adnoddau CBAC wedi’u paratoi gan yr Athro Marged Haycock: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned02/03-marwnad-owain.html https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2009-10/welsh/a-cymraeg/hengerdd/Taliesin/2%20Marwnad%20Owain%20ab%20Urien/MARWNAD%20OWAIN%20AB%20URIEN%20Nodiadau%20geiriau.docx…
Y
Yr Hen Iaith

Mae’r bennod hon yn trafod un o’r cerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin. Ystyr y gair ‘gwaith’ yw ‘brwydr’, ac er nad ydym yn gwybod ble yn union oedd Argoed Llwyfain, mae’n sicr bod y lleoliad yn yr Hen Ogledd a bod y frwydr hon wedi digwydd tua diwedd y chweched ganrif. Roedd yn fuddugoliaeth i’r Brythoniaid ac mae’r bardd yn canmol eu harweinwyr, Urien a’i fab, Owain. Trafodwn y wedd ddramatig ar y gerdd wrth i’r bardd ail-greu sgwrs cyn y frwydr rhwng Owain a Fflamddwyn, arweinydd yr Eingl Sacsoniaid. Nodwn fod y gerdd waedlyd hon hefyd yn hoelio sylw ar swyddogaeth y bardd ei hun. ** ‘The Battle of Argoed Llwyfain’ This episode discusses one of the poems attributed to the bard Taliesin. The word ‘gwaith’ means ‘battle’, and although we don’t know where exactly Argoed Llwyfain was, it’s certain that the location was in the Old North and that this battle took place sometime towards the end of the sixth century. It was a victory for the Brittonic Celts and the bard praises their leaders, Urien and his son, Owain. We discuss the poem’s dramatic nature, as the bard recreates the discussion before the battle between Owain and Fflamddwyn, the leader of the Angl-Saxons. We note that this bloody poem also draws attention to the function of the poem himself. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Adnoddau CBAC wedi’u paratoi gan yr Athro Marged Haycock: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned02/02-gwaith-argoed-llwyfain.html http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2009-10/welsh/a-cymraeg/hengerdd/Taliesin/1%20Argoed%20Llwyfain/GWAITH%20ARGOED%20LLWYFAIN%20Nodiadau%20geiriau.docx…
Dyma ni’n cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o gerddi Taliesin, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy edrych ar Lyfr Taliesin ei hun, un o’r trysorau a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Crëwyd y llawysgrif ryfeddol hon yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond mae’n cynnwys casgliad o gerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin a oedd yn canu mawl i arweinwyr ei gymdeithas yn yr Hen Ogledd yn y chweched ganrif. Mae’n ddiddorol meddwl am y cerddi hyn yn teithio trwy amser o’r cyfnod hynafol hwnnw i’r Oesau Canol wrth iddynt deithio o’r Hen Ogledd i Gymru. A digwyddodd rhywbeth arall yn ystod y daith honno hefyd: oherwydd ei statws fel un o’r cynfeirdd sy’n sefyll ar ddechrau hanes y traddodiad barddol Cymraeg, aeth Taliesin yn gymeriad chwedlonol. Felly yn ogystal â’r canu mawl hanesyddol, mae Llyfr Taliesin yn cynnwys nifer o gerddi a gysylltir â’r Taliesin chwedlonol, cymeriad gyda phwerau goruwchnaturiol sy’n ymgnawdoliad o hud a grym barddoniaeth Gymraeg. ** The Book of Taliesin Here we introduce the episodes which discuss two of Taliesin’s poems, and we do that by looking at the Book of Taliesin itself, one of the treasures kept in the National Library of Wales. This amazing manuscript was created during the first half of the fourteenth century, but it includes a collection of poems which are attributed to Taliesin, the bard who sang praise to the leaders of his society in the Old North in the sixth century. It’s interesting to think about these poems travelling through time from that ancient period to the Middle Ages as they travelled from the Old North to Wales. And something else happened during that journey as well: because of his status as one of the earliest poets standing at the beginning of the Welsh bardic tradition, Taliesin became a legendary character. Thus, in addition to the historical praise poetry, the Book of Taliesin contains a number of poems connected to the legendary Taliesin, a character with supernatural powers who is an incarnation of Welsh poetry’s magic and might. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Mae’n bosibl gweld y llawysgrif ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llawysgrifau/yr-oesoedd-canol/llyfr-taliesin…
Y
Yr Hen Iaith

Dyma ni’n trafod marwnad i un arall o ryfelwyr y Gododdin, Buddfan fab Bleiddfan. Nodwn mai ‘arwr’ yw’r gair cyntaf, gan grynhoi’n effeithiol y darlun a gawn yn y llinellau sy’n dilyn. Nodwn hefyd fod y gair olaf, ‘dihafarch’ (‘dewr’) yn crynhoi prif neges y farwnad. Yn debyg i’r awdl gyntaf, disgrifir marwolaeth mewn brwydr yma fel ‘bwydo brain’. Dyma farddoniaeth sy’n ein cymell i weld yr olygfa drist, gan gynnwys y gwaed sy’n gwlychu arfwisg y milwr marw hwn. Pwysleisiwn fod un o’r llinellau hyn – ‘Beirdd byd barnant ŵr [neu ‘wŷr’] o galon’ – yn hoelio sylw ar swyddogaeth gymdeithasol y bardd. * Here we discuss an elegy to another of the Gododdin’s dead warriors, Buddfan fab Bleiddfan. We note that ‘arwr’ (‘hero’) is the first word, summarizing effectively the picture we get in the following lines. We also note that the last word, ‘dihafarch’ (‘brave’) encapsulates this elegy’s main message. Like the first awdl, death in battle is described here as ‘feeding crows’. This is poetry which urges us to see the sad scene, including the blood soaking this dead soldier’s armour. We stress that one of these lines – ‘Beirdd byd barnant ŵr [‘wŷr’] o galon’ – focusses attention on the poet’s social function. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Adnoddau CBAC – golygiad a nodiadau gan yr Athro Peredur Lynch: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned01/03-awdl-xxiv-aneirin.html…
Y
Yr Hen Iaith

Trafodwn awdl gyntaf Y Gododdin yn y bennod hon, sef marwnad i Ywain, rhyfelwr a ddisgrifir fel ‘unig fab Marro’. Nodwn fod yr arddull yn foel iawn ond yn hynod bwerus; dyma fardd sy’n gwneud llawer gydag ychydig o eiriau. Dysgwn nifer o bethau am Ywain: roedd yn filwr dewr, bu farw yn y frwydr, ac roedd yn ifanc iawn pan fu farw. * We discuss the first of the Gododdin’s awdlau in this episode, namely an elegy for Ywain, a warrior described as ‘Marro’s only son’. We note that the style is very sparse yet also extremely powerful; here is a poet who does a lot with a few words. We learn a number of things about Ywain: he was a brave soldier, he died in the battle, and he was very young when he died. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Adnoddau CBAC – golygiad a nodiadau gan yr Athro Peredur Lynch: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned01/02-awdl-i-aneirin.html…
Mae’r bennod hon yn cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o awdlau Canu Aneirin. Dyma ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn edrych ar Lyfr Aneirin ei hun! Ysgrifennwyd y llawysgrif hon rhwng tua 1250 a 1300. Gan ei bod yn debyg mai yn ystod blynyddoedd olaf ‘y Gymru annibynnol’ yr ysgrifennwyd hi, tybed a oes cysylltiad rhwng y cyd-destun gwleidyddol hwnnw a chynnwys y llawysgrif?! Trafodwn Y Gododdin a gofyn cwestiwn cymhleth am daith yr hen farddoniaeth hon o’r ‘Hen Ogledd’ i’r Gymru ganoloesol. Edrychwn hefyd ar nodiadau diddorol yn y llawysgrif sy’n awgrymu sut oedd rhai beirdd diweddarach yn ystyried pwysigrwydd a gwerth Llyfr Aneirin. * The Book of Aneirin This episode prefaces the episodes which discuss two of Canu Aneirin’s awdlau. Here we are in the National Library of Wales, looking at the Book of Aneirin itself! This manuscript was written between about 1250 and 1300. As it’s likely that it was written during the final years of ‘the independent Wales, we wonder if there’s a connection between that political context and the contents of the manuscript?! We discuss the Gododdin and ask a complicated question about the journey of this old poetry from the ‘Old North’ to medieval Wales. We also look at interesting notes in the manuscript which suggest how some later poets viewed the importance and value of the Book of Aneirin. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Gellir gweld copi digidol o Lyfr Aneirin ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llawysgrifau/yr-oesoedd-canol/llyfr-aneirin - Adnoddau CBAC – ‘Cyflwyno’r Gododdin’ gan yr Athro Peredur Lynch: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned01/01-cyflwynor-gododdin.html…
Y
Yr Hen Iaith

Ystyriwn y cywydd ‘Gwenllian’ gan Myrddin ap Dafydd yn y bennod hon, gan egluro’r ddau gyd-destun hanesyddol perthnasol – diwedd llinach tywysogion Cymru yn 1282 a hanes ymgyrch yn y 1990au i greu cofeb i ferch Llywelyn ap Gruffudd, Gwenllian. Awgrymwn fod y gerdd hon yn gofeb hynod drawiadol yn ei hawl ei hun. Wrth bwysleisio bod Myrddin ap Dafydd wedi dewis mesur caeth traddodiadol, y cywydd, nodwn ei fod yn defnyddio’r mesur hwnnw mewn modd gwreiddiol. Craffwn ar arwyddocâd yr enwau lleoedd sy’n angori’r gofeb farddonol hon mewn rhan benodol o Gymru. Rhaid cyfaddef hefyd ein bod wedi’n llorio gan y tristwch sy’n hydreiddio’r gerdd bwerus hon. * We consider the poem 'Gwenllian' by Myrddin ap Dafydd in this episode, explaining the two relevant historical contexts – the end of the dynasty of the princes of Wales in 1282 and the history of a campaign in the 1990s to create a memorial to Llywelyn ap Gruffudd's daughter, Gwenllian. We suggest that this poem is a remarkably impressive memorial in its own right. In emphasising that Myrddin ap Dafydd chose a traditional strict measure, the cywydd, we note that he used that measure in an original way. We will examine the significance of the place names that anchor this poetic memorial in a particular part of Wales. It must also be admitted that we are overwhelmed by the sadness that permeates this powerful poem. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Nodiadau CBAC: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2014-15/WJEC-14-15_12/Gwenllian.docx…
플레이어 FM에 오신것을 환영합니다!
플레이어 FM은 웹에서 고품질 팟캐스트를 검색하여 지금 바로 즐길 수 있도록 합니다. 최고의 팟캐스트 앱이며 Android, iPhone 및 웹에서도 작동합니다. 장치 간 구독 동기화를 위해 가입하세요.